Lles Goddrychol
Mae dimensiynau goddrychol lles, sydd yn asesiad unigolyn o'i amgylchiadau ei hun, beth maent yn ei feddwl ac yn ei deimlo, yn anoddach i'w mesur a dylanwadu arnynt. Er gwaethaf hynny, mae Rhwydwaith Lles Cymru yn credu y dylai unrhyw ddiffiniad neu fesur o les gynnwys rhyw asesiad o brofiad ymarferol polisïau a gwasanaethau a sut y maent yn effeithio ar yr unigolyn.

