Diffinio Lles

Mae'r term 'lles' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin mewn llywodraeth a chyda phartneriaid yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Caiff ei ddefnyddio ar draws polisi, gyda chyfeiriadau at bob grŵp oedran a phob cymuned yn y wlad. Fel term, caiff lles ei ddefnyddio hefyd mewn modd rhyng-gyfnewidiol gyda syniadau megis gwelliant ac ansawdd bywyd neu i ateb y cwestiynau mwy, megis "pam ein bod ni yma?" a "beth yw hyn i gyd?". Serch hynny, y cwestiwn a ddaw yn ôl bob amser yw sut i'w ddiffinio?

swim500

Mae diffiniadau i'w cael, ond mae Rhwydwaith Lles Cymru am i sefydliadau ystyried sut y byddai eu gwasanaethau yn gweithio pe byddent yn gyfrifol am gynyddu lles cymdeithasol a lles yr unigolyn. Yn yr un modd, byddai gan y Rhwydwaith ddiddordeb mewn clywed gan arweinwyr cymuned ynglŷn â sut y maent wedi cefnogi eu cymunedau yng Nghymru i gynyddu eu lles.

Os hoffech gyfrannu dogfennau am les i rannu efo ymwelwyr i'r wefan hon – e-bostiwch gwybodaeth@wellbeingwales.org