Dewis y Golygudd Chwefror 2010

Gan mai hwn yw'r rhifyn cyntaf, mae'n rhoi'r cyfle i mi fwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau newyddion diweddar sy'n dangos ehangder ac amrywiaeth y pwnc hwn sy'n cael sylw cynyddol.

Ym mis Ionawr cyhoeddodd Sefydliad Young ei adroddiad, ‘The State of Happiness’ a chafodd lawer o sylw yn y wasg. Dywedodd Geoff Mulgan, un o awduron a Chyfarwyddwr Sefydliad Young, bod y dystiolaeth am yr hyn a wna bobl yn hapus yn "troi'n llifeiriant". Mae'r erthygl yn rhestru ystod o bethau y gall llywodraethau eu gwneud er mwyn gwella hapusrwydd a lles eu dinasyddion a'u cymunedau (i gael copi o'r adroddiad hwn ewch i'r tudalen Darllen Pellach).

Ymchwilir rôl y Llywodraeth mewn hyrwyddo hapusrwydd ymhellach gan yr economegydd blaenllaw yr Arglwydd Layard mewn erthygl yn y Times. Agwedd yr Arglwydd Layard yw y dylai llywodraethau siapio polisi cymdeithasol i hyrwyddo hapusrwydd. Ymddengys bod hyn yn groes i sylwadau gan yr hybarch Matthieu Ricard - y ‘Dynion Hapusaf yn y Byd’ eraill. Fel mynach Bwdhaidd, mae gan Ricard agwedd wahanol tuag at hapusrwydd a lles, sy'n canolbwyntio ar rôl a chyfrifoldeb yr unigolyn. Mae gan y ddwy farn hon lawer yn gyffredin er gwaetha'r ffaith fod gan y ddau ddyn hapus hyn atebion tra gwahanol i'r un cwestiynau.

Yn olaf, mae Time wedi rhoi sylw i'r ddadl sy'n parhau ar sut i fesur cynnydd cymdeithasol. Mae CMC yn dod o dan y lach fel dull mesur cul 'llif arian' cenedlaethol, sydd ddim yn hysbysu’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â "cynnydd cyffredinol [gwlad] o ran iechyd ac addysg, cyflwr y seilwaith cyhoeddus, effeithlonrwydd tanwydd, cymuned a hamdden."

Yn ddiweddarach yn yr erthygl cyflwynir Mynegai Planed Hapus gan Sefydliad New Economics fel mesur "lles cymdeithasol ac economaidd yng nghyd-destun yr adnoddau a ddefnyddir." Dyfynnir Nic Marks o NEF yn defnyddio'r mynegai fel "arwyddbost sy'n cyfeirio yn fwy tuag at y gymdeithas yr ydym i gyd am fyw ynddi." Gyda'r DU yn gorwedd yn rhif 74 ar raddfa ryngwladol y Mynegai, mae'n siŵr y gallwn bawb gytuno ein bod ni yng Nghymru yn dymuno byw yn uwch ar y rhestr.