Dewis y Golygudd Mehefin 2010

Pan ddarllenais sylwadau Roy Romanow yn y Montreal Gazette, meddyliais ei fod wedi bod yn siarad gyda fy rhieni. Mae ei gydweithwyr wedi gweld bod Canadiaid yn dioddef oherwydd bod technolegau newydd yn dileu’r ffiniau rhwng y gweithle a’r cartref. Mae Mynegai Lles Canada wedi galw hwn yn "gywasgiad amser".

Fel y dywed Roy "Mae pobl yn ei chael hi’n anodd i fodloni’r galw sy’n cystadlu mewn gweithle a all ymestyn allan atynt bob awr o’r dydd, gofalu am blant a rheini sy’n heneiddio, a (diwallu) eu hangen eu hunain i adfywio eu corff a’u meddwl,"

"Fel unigolion ac fel cymdeithas rydym yn talu’n ddrud am y cywasgu amser hwn. Rydym yn llai iach, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae gennym lai o amser ar gyfer gorffwys a hamddena."

Er bod yr adroddiad yn son bod technoleg yn ffactor gyfrannol mewn cymylu’r ffin rhwng gwaith a chwarae, teimla Mynegai Lles Canada y gallai gwneuthurwyr polisi wneud mwy i gynorthwyo Canadiaid i fyw bywydau mwy cytbwys.

I’r gwrthwyneb, amlygodd erthygl arall yn ddiweddar rôl technoleg gwybodaeth mewn gwella lles pobl. Canfu astudiaeth fyd-eang gan y Sefydliad Siartredig TG bod gan fynediad at dechnoleg gwybodaeth "rôl alluogol a grymusol", sy’n arwain at well "bodlonrwydd bywyd".

Yn ôl Donna Dawson, seicolegydd a ddyfynnwyd yn yr erthygl "Drwy roi dewisiadau i ni, caniatáu mynediad i ni at wybodaeth, a’n rhoi mewn cysylltiad ag eraill, gall TG gynyddu teimladau o sicrwydd, rhyddid personol a grym, sydd gyda’i gilydd yn rhoi mwy o fodlonrwydd bywyd i ni ."

Mae’n siŵr mai’r pwynt allweddol yw gwybod pryd i ddiffodd yr i-ffôn neu’r blackberry. Os nad yw hynny yn helpu, yn The Irish Times cafwyd stori am olchi traed fel gweithgaredd therapiwtig sydd wedi ei "esgeuluso’n fawr". Mae’r erthygl yn honni bod "Golchi traed yn ffordd hynod effeithiol o leddfu’r straen, am ei fod yn syml, yn weithgaredd y gellir ei wneud yn gyflym, neu gall roi oriau o hunan-faldod sy’n sicrhau dychweliad at gydbwysedd mewn adegau o dyndra."

Mae cyfeiriad yr erthygl at "golchwyr traed sydd wedi hen arfer" ac "oriau o hunan-faldod" yn awgrymu isddiwylliant sy’n gwbl newydd i mi. Er bod ymadroddion fel "cael traed oer," "bod â dwy droed chwith" ac "ar y droed flaen" yn dangos, yn ieithyddol beth bynnag, bod cysylltiad mwy na chorfforol wedi bod rhwng pobl a’u traed erioed. Rhywbeth arall i’w ychwanegu at y rhestr o bethau i’w gwneud ... pe bai gen i amser.