Dewis y Golygydd Mai 2010

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am y tarfu dros dro ar 'Ddewis y Golygydd'. Mae ychwanegiad diweddar ail fabi i'r teulu wedi golygu bod fy lles corfforol a seicolegol wedi derbyn tipyn o ergyd dros yr wythnosau diwethaf. Sicrhawyd fi yn gyffredinol y bydd fy lles yn gwella mewn amser, ond yn y cyfamser rwy'n dal fy ngwynt.

Y newyddion gorau i Rwydwaith Lles Cymru yn y misoedd diwethaf oedd y cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu prawf hapusrwydd "i amddiffyn a hyrwyddo lles pobl Cymru". Mae'r penderfyniad beiddgar hwn, a groesewir gan y Rhwydwaith, yn golygu y bydd mesuriad lles yn cael ei gynnwys fel un o bum dangosydd sy'n dangos llwyddiant cynaliadwy'r wlad.

Mae'r erthygl yn crybwyll sut y croesawyd y cynnig hwn gan arbenigwyr busnes ac iechyd fel modd i "adeiladu gwlad fwy cytbwys." Yr hyn sy'n galonogol yw'r modd y caiff lles ei gofleidio gan sectorau gwahanol a'u helpu hwy i ganolbwyntio ar nod cyffredin. Mae hefyd yn gyffrous i weld Cymru yn bod mor arloesol gyda'i ddatblygiad polisi.

Mater arall agos at fy nghalon ar hyn o bryd yw gweithio hyblyg. Gyda theulu sy'n tyfu a galwadau cynyddol ar fy amser mae'n wych darllen am fanteision lles cymryd rheolaeth ar gydbwysedd eich bywyd a'ch gwaith eich hun.

Yn olaf dengys astudiaeth newydd bod cyfranogi yn dda i'ch lles hefyd. Yn bersonol mae cael syniad o bwrpas a bod yn rhan o rywbeth mwy bob amser yn fy ngwneud i deimlo'n dda a dengys yr astudiaeth hon bod mwy i'w ennill drwy gyfranogi na dim ond cwyno o'r ymylon.