Dewis y Golygydd

Awst 2010

Yr hyn a greodd y mwyaf o fwrlwm yng ngholofnau’r wasg yn ystod yr wythnosau diwethaf fu disgrifiad Yr Athro Steve Field o'r hyn y mae’n ei alw’n "ymddygiad cyhoeddus anghyfrifol tuag at fwyd, alcohol a sigaréts … sy'n achosi lefelau cynyddol o glefydau a marwolaethau cynnar." Aeth ymlaen i ddweud "Y gwir yw bod gormod ohonom yn esgeuluso ein hiechyd, ac mae hyn yn arwain at lefelau cynyddol o afiechyd a marwolaethau cynnar."

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, cynhyrchodd yr ymateb i sylwadau'r Athro Field hyd yn oed rhagor o fodfeddi yng ngholofnau’r wasg. Roedd llawer yn barod iawn i dynnu sylw at y ffaith bod dewisiadau unigolyn yn cael eu dylanwadu gan ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach eraill. Yn wir, yn ôl llawer o sylwedyddion, ysgogir "ymddygiadau anghyfrifol" gan amgylchiadau lle nad oes dewis yn bodoli o gwbl.

Hefyd cafodd dadl gyhoeddus iawn am y Spirit Level sylw yn y Wasg yn ystod y mis diwethaf. Yn syml, casglodd awduron Spirit Level dystiolaeth i ddangos bod cymdeithasau mwy cyfartal bob amser yn gwneud yn well na chymdeithasau llai cyfartal. Mae eraill wedi anghytuno, ond gyda llai o argyhoeddiad.

Cyd-destun yr holl benawdau hyn yw Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan ym mis Hydref. Mae dyfalu ynglŷn â blaenoriaethau gwariant y Llywodraeth yn dominyddu gwasg Prydain. Hoffai Rhwydwaith Lles Cymru ychwanegu drwy ddatgan y dylai Cymru a gweddill y DU anelu at fod y Wlad Orau yn y Byd. Ond beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol? Lle dylai'r Llywodraeth wario'r pwrs cyhoeddus tynn?

Yn gyfleus, cyhoeddodd Newsweek yn ddiweddar yr arolwg Gwlad Orau yn y Byd, yn seiliedig ar asesiad o addysg, iechyd, ansawdd bywyd, cystadleurwydd economaidd ac amgylchedd gwleidyddol a geir mewn 100 o wledydd ar draws y byd. Daeth y DU yn bedwerydd ar ddeg diflas, y tu ôl i’r Unol Daleithiau, Yr Almaen a Japan. Y Ffindir sy'n dod uchaf gan barhau ei hanes da rhyfeddol mewn tablau rhyngwladol tebyg (megis y Mynegai Heddwch Byd-eang).

Byddai llawer o sylwebyddion gwyrdd am i ni gredu mai bwyta pysgod wedi’u piclo yw fformiwla’r Ffindir ar gyfer y llwyddiant rhyngwladol parhaus hwn. Gwnaeth un person o'r Ffindir y sylw bod "y cydraddoldeb a roddir i ddynion a menywod, y canolbwyntio ar gydbwysedd gwaith-bywyd, y pwyslais ar addysg a gofal plant, gwlad hardd, pobl hardd a'i chyfraniad at arloesedd megis Nokia" i gyd yn ffactorau sy'n gwneud y Ffindir yn deilwng i ennill Gwlad Orau yn y Byd.

Mae'n swnio'n dda onid yw hi? Hefyd canfu arolwg Newsweek bod "bach yn well." Digwydd hyn am fod gwledydd llai megis Slofenia ac Estonia yn perfformio’n well oherwydd ei bod yn gofyn am lai o ymdrech cymharol i wella eu lefelau lles cyffredinol.

Felly, mae enghreifftiau i’w cael ar sut y gallai Cymru ddod y gorau o'r goreuon - drwy leihau ein anghyfartaleddau economaidd, mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach o fewn cymdeithas i gynorthwyo pobl i wneud y dewisiadau iawn ar gyfer eu hiechyd, wedi'u cyfuno â pholisïau Gwlad Orau yn y Byd y Ffindir yn ymwneud â’r teulu, gwaith ac arloesedd .... hawdd!