OECD cwrs e-ddysgu 5 wythnos ar Ystadegau, Gwybodaeth a Pholisi
1 Maw - 2 Ebr 2010Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn cydweithrediad ar Sefydliad ar gyfer Hyfforddiant ac Ymchwil y Cenhedloedd Unedig wedi datblygu cwrs e-ddysgu 5 wythnos ar Ystadegau, Gwybodaeth a Pholisi: Deall Newid Cymdeithasol i’w gynnal rhwng 1 Mawrth â 2 Ebrill 2010.
Mae'r e-gwrs wedi ei gynllunio i roi cymorth i'r rheiny sydd am ddeall cynnydd eu cymdeithasau a hyrwyddo trafodaeth seiliedig ar dystiolaeth a llunio polisi. Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer ystadegwyr, economegwyr, gwneuthurwyr polisi, staff NGO a newyddiadurwyr, yn ogystal â'r rheiny o'r sectorau preifat a chymdeithas sifil.
Wedi ei drefnu fel rhan o'r Prosiect Byd-eang ar Fesur Cynnydd Cymdeithasau (http://www.oecd.org/progress), bydd y cwrs yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ystadegau ar gyfer democratiaeth a gwneud penderfyniadau democrataidd; mesurau cynnydd sydd yn mynd y 'tu hwnt i gynnyrch mewnwladol crynswth'; arfau i drawsnewid ystadegau yn wybodaeth; a thystiolaeth, ymgysylltiad sifil a gwneud polisi.
Y dyddiad terfyn ar gyfer cofrestru yw 1 Chwefror 2010. Am ragor o fanylion mae llyfryn wedi ei atodi, neu fe allwch fynd i http://www.unitar.org/pft/elearning/oecd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Ms. Barbara Iasiello (progress@oecd.org).
