Mudiadau Defnyddiol

Wikiprogress

Dyma'r llwyfan byd eang ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn gwerthuso cynnydd cymdeithas. Mae'n lle i ddod o hyd i wybodaeth ac ystadegau i hwyluso cyfnewid syniadau, mentrau a gwybodaeth ar fesur cynnydd cymdeithasau.

http://www.wikiprogress.org/index.php/Main_Page

http://www.wikiprogress.org/index.php/Wellbeing_wales

Y Banc Gwybodaeth Lles

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi lawnsio ei Banc Gwybodaeth Lles. Ystorfa o ddolenni a gwybodaeth sy'n berthnasol i faes lles yw hon, yn amrywio o bapurau a dadansoddiadau perthnasol, digwyddiadau a gweithgareddau i gynlluniau gwaith yr ONS ei hun yn y maes hwn. Y nod yw dod â mwy o welededd ac eglurder i'r wybodaeth, yr allbynnau a’r cynlluniau presennol sy'n berthnasol i les cymdeithasol ar draws yr ONS a thu hwnt, a dechrau sefydlu cymuned fuddiant. Caiff y banc gwybodaeth ei ddiweddaru'n gyson a byddai’r ONS yn croesawu unrhyw syniadau ar gyfer cynnwys.

www.ons.gov.uk/about-statistics/wellbeing

Y Prosiect Byd-eang ar Fesur Cynnydd Cymdeithasau

A yw bywyd yn gwella? A yw ein cymdeithasu'n dangos gwelliant? Yn wir, beth mae 'gwelliant’ yn ei olygu i ddinasyddion y byd? Ni ellir cael llawer o gwestiynau sy'n bwysicach heddiw yn y byd sy'n newid mor gyflym. Ac eto, faint ohonom sydd â'r dystiolaeth i ateb y cwestiynau hyn?

Mae'r Prosiect Byd-eang ar "Fesur Cynnydd Cymdeithasau"- a gynhelir gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a'i redeg mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol a rhanbarthol eraill - yn ceisio dod yn bwynt cyfair byd-eang i'r rheini sydd am fesur ac asesu cynnydd eu cymdeithas.

www.oecd.org/progress

Sefydliad Economeg Newydd

Mae'r ganolfan ar gyfer lles yn y Sefydliad Economeg Newydd yn ceisio deall, mesur a dylanwadu lles. Yn arbennig, mae ganddynt ddiddordeb mewn 'sut y byddai llunio polisi a’r economi yn edrych os mai hyrwyddo lles fyddai ei brif nod

www.neweconomics.org

Sefydliad yr Ifanc

Wedi ei sefydlu yn 2005, a'i ffurfio drwy uno'r Sefydliad Astudiaethau Cymunedol a'r Mutual Aid Centre, mae Sefydliad yr Ifanc yn cynnal ymchwil i ganfod a deall anghenion cymdeithasol nas diwellir, ac yna datblygu mentrau ymarferol a sefydliadau i fynd i'r afael â hwy - mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd ac addysg, tai a dinasoedd.

www.youngfoundation.org.uk

Y Ganolfan Hyder a Lles

Cenadwri'r Ganolfan yw cynorthwyo i drawsnewid diwylliant yn yr Alban fel ei fod yn cefnogi rhagor o:

• Optimistiaeth (ar gyfer eu hunain, eraill a'r Alban).
• Hunan-gred (cynhwysydd pwysig mewn agweddau 'gallaf wneud').
• ‘Meddwl am dwf’ (hollbwysig i bobl wireddu eu potensial).
• Gwydnwch (ei angen i gynorthwyo pobl i barhau i ddal ati pan fydd bywyd yn anodd).
• Egni cadarnhaol (hollbwysig ar gyfer perthnasoedd, gweithio mewn tîm a chydweithredu).
• Synnwyr o bwrpas/ystyr (pwysig ar gyfer ysgogi a lles).
• Rhoi (gwrthwenwyn i fyd wedi ei ganoli arnaf ‘fi’ a ffynhonnell egni ac ysbrydoliaeth bersonol).
• Doethineb (pwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau ac arweiniad ar gyfer datblygu’r agenda hyder).

www.centreforconfidence.co.uk/index.php

Forward Scotland

Mae Forward Scotland yn gweithio gyda chleientiaid, partneriaid strategol a grwpiau cymunedol ar ymchwil i themâu allweddol a materion datblygu cynaliadwy i gael atebion arloesol ac ymarferol.

Mae gweithgareddau ymchwil a chynlluniau grant Forward Scotland yn creu cyfoeth o wybodaeth sydd o werth i grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill. Caiff y wybodaeth hon ei lledaenu drwy gyhoeddiadau, gweithdai, seminarau, cynadleddau a gwefan sustainablescotland.com.

www.forward-scotland.org.uk