Is-bwyllgorau

Mae gan Rwydwaith Lles Cymru nifer o is-bwyllgorau yn gweithio ar wahanol feysydd yr agenda Lles. Gall ffocws a nifer y pwyllgorau hyn newid er mwyn ymateb i anghenion yr aelodau a sut y gallant gynyddu Lles yng Nghymru.

Cwmpas presennol yr is-bwyllgorau yw:

  • Pwyllgor Cyfathrebu - mae gan y grŵp hwn gyfrifoldeb am gyfathrebu gwaith a dyheadau Rhwydwaith Lles Cymru.
  • Pwyllgor Gwerthuso a Chymhwyso ymchwil - mae aelodau'r grŵp hwn am ddylanwadu ar weithgaredd academaidd sy'n ymwneud â chysyniad lles.
  • Pwyllgor Pecyn Cymorth - y grŵp hwn sydd â'r cyfrifoldeb am gynnal rhaglen beilot Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy.

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau'r pwyllgorau hyn e-bostiwch gwybodaeth@wellbeingwales.org