Pwyllgor Llywio

Mae'r Pwyllgor Llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau, diddordebau a sectorau – pawb yn frwd dros les.

Eu rôl bresennol yw:

  • Cefnogi PHA Cymru i sefydlu Rhwydwaith Lles Cymru
  • Cynrychioli ystod ehangach o farn a diddordebau ar y Rhwydwaith
  • Gwerthuso effeithiolrwydd y Rhwydwaith
  • Cefnogi twf ac esblygiad y Rhwydwaith
  • Cyfrannu i is-bwyllgorau mewn meysydd penodol o waith.

Wrth i'r Rhwydwaith esblygu fel sefydliad, bydd rôl y Pwyllgor Llywio yn newid hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd y Pwyllgor Llywio, darllenwch gofnodion y cyfarfodydd.