Cylch gorchwyl

Y Pwyllgor Llywio

  • Cynhelir o leiaf bedwar Cyfarfod Pwyllgor Llywio bob blwyddyn galendr i aelodau eu mynychu.
  • Os nad yw aelod o'r Pwyllgor yn mynychu tri chyfarfod o'r bron heb esboniad, at ddibenion dilyniant ymglymiad cânt eu tynnu oddi ar Aelodaeth y Pwyllgor Llywio.

Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd (PHA)

  • Mae UK PHA yn derbyn Cynllun Grant Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
  • PHA Cymru sy'n gyfrifol am fodloni nodau, targedau, telerau ac amodau a nodir yn y cytundeb rhwng UK PHA a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Mae cyfran gyntaf Cynllun Grant Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2008 a mis Mawrth 2011.

Rôl y Pwyllgor Llywio

Ar y cyd bydd Aelodau'r Pwyllgor yn:

  • monitro perfformiad o ran bodloni'r ymrwymiadau a wnaed mewn cynllun gweithredu rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a PHA Cymru;
  • gwneud argymhellion i PHA Cymru er mwyn sicrhau bod cynllun gweithredu / strategaeth Rhwydwaith Lles Cymru yn cael eu cyflawni'n effeithiol;
  • cyfrannu at werthusiad effaith Rhwydwaith Lles Cymru;
  • adolygu'n flynyddol Strategaeth Rhwydwaith Lles Cymru;
  • gosod ffiniau gweithgareddau'r gwahanol is-bwyllgorau o ran amcanion, adnoddau, amser a dyddiad terfyn.

Bydd pob Aelod Pwyllgor yn ymdrechu i hysbysu ei 'etholaeth' neu rwydweithiau am les yn benodol a gweithgareddau Rhwydwaith Lles Cymru yn gyffredinol.

Cynrychiolaeth

Bydd y Pwyllgor Llywio yn cynnwys cynrychiolwyr yr ystod o faterion sy'n gydrannau lles* - yn fras

  • lles corfforol a seicolegol
  • lles amgylcheddol
  • lles cymdeithasol a chymunedol
  • lles economaidd a materol

*Fel y diffinnir fel cydrannau lles cynaliadwy a ddefnyddir yn y Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy

Rôl yr Is-bwyllgorau

  • Caiff rolau a ffiniau gweithgareddau'r gwahanol is-bwyllgorau o ran amcanion, adnoddau, amser a dyddiad terfyn eu sefydlu gan y Pwyllgor Llywio.
  • Cadeirydd pob Is-bwyllgor fydd yn gyfrifol am adrodd yn ôl i gyfarfodydd y Pwyllgor Llywio.

Mehefin 2009