Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy
Mae'n llawer rhy hawdd i ganolbwyntio gormod ar gyflawni atebion penodol eich gwaith neu eich prosiect heb ystyried y darlun ehangach. Weithiau gall cymryd cam yn ôl helpu i ganfod ffyrdd newydd i gynyddu effaith yr hyn sy'n cael ei gynllunio a manteisio i'r eithaf ar ei fudd ehangach. Proses integreiddio seiliedig ar sgwrsio yw'r Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy a fydd yn cynorthwyo sefydliadau i gyflawni ar eu syniadau eu hunain, ond hefyd bod sefydliadau yn cynyddu eu cyfraniad i'r agenda lles ehangach.

Yn nodweddiadol bydd y broses yn fwyaf effeithiol pan fydd gan sefydliad syniad sydd wedi ei weithio allan yn rhannol ar gyfer strategaeth, cynllun gweithredu, prosiect neu raglen newydd. Mae'r Pecyn Cymorth yn helpu i ymgorffori lles i mewn i weithgareddau a phrosiectau sefydliadol mewn ffordd ymarferol, rhyngweithiol ac adeiladol.
Datblygwyd Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy ar y cyd gan y Sefydliad Economeg Newydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Rhwydwaith Lles Cymru. Ar hyn o bryd caiff ei beilotio gan Rwydwaith Lles Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru diddordeb mewn defnyddio'r Pecyn Cymorth, cofrestrwch yma.
