Ymgynghoriadau

Mae Rhwydwaith Lles Cymru yma i gynorthwyo'r sector gwirfoddol a'i bartneriaid i wneud cyfraniad effeithiol i wella lles Cymru.

Un ffordd o wneud hyn yw trwy gynorthwyo sefydliadau i integreiddio lles i gynlluniau a strategaethau yn y dyfodol. Gellir gwneud hyn drwy naill ai ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Archwilio Lles Cynaliadwy neu drwy gyfrannu i ddatblygiad cynlluniau a strategaethau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol.