Gwerthuso a Chymhwyso Ymchwil

Mae'r ehangder o faterion y mae'r llywodraeth a'u partneriaid yn prysur eu siapio yn eithriadol o eang ac yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein cymdeithas. Ar lefel genedlaethol a lleol mae mentrau, strategaethau a chynlluniau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael ag ystod o flaenoriaethau cymdeithas Cymru.

O fewn yr holl weithgaredd hwn mae gan Rwydwaith Lles Cymru ddiddordeb i ymholi beth yw profiad ymarferol unigolyn yn y man lle mae'r polisïau hyn yn gweithredu o ran lles? Beth mae polisi penodol yn ei wneud er eu lles a'u cymunedau? Pa bolisïau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i les a pham? Sut caiff y newidiadau hyn eu mesur?

Gyda chymaint o asiantaethau yn darparu gwasanaethau sydd â'r potensial i gael effaith ar les Cymru, hoffai'r Rhwydwaith ddwyn y gwahanol ymagweddau hyn ynghyd er mwyn ystyried eu canlyniadau a rhannu arfer gorau.

I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch yma.