Deall Lles

Mae lles fel cysyniad yn cwmpasu ystod eang o faterion a gall olygu amrywiaeth o bethau i wahanol bobl neu sefydliadau. Pan fyddwn yn siarad am les efallai y byddwn am ddefnyddio diffiniad manwl gywir i ddweud beth rydym ni'n feddwl yw lles. Y broblem gyda’r ymagwedd hon yw y gall allgau rhai sefydliadau neu weithgareddau sydd ddim yn gweddu i ddiffiniad penodol. Yr hyn sydd hyd yn oed yn waeth yw y gallai diffiniad cadarn wneud i rai pobl feddwl nad oes gan les ddim i’w wneud â nhw.

Mae gan Rwydwaith Lles Cymru ymagwedd wahanol. Yn ein datganiad cenhadaeth rydym y datgan fod "lles yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywydau pobl. Cred y Rhwydwaith fod pawb yn gwneud dewisiadau sy'n effeithio ar eu lles eu hunain a lles eraill. Bydd Rhwydwaith Lles Cymru yn cynnig canllawiau i bobl a sefydliadau wneud y dewisiadau gorau a chynyddu lles ledled Cymru a thu hwnt."

Rydym eisiau cynnwys pobl a sefydliadau mewn deall syniad ac yna, gyda'n gilydd ddatblygu gweledigaeth a rennir o beth allai gwell lles yng Nghymru fod, ac yna gwneud rhywbeth am y peth.

Dros amser, gobeithir y bydd aelodau Rhwydwaith Lles Cymru yn rhoi eu hanesion am les ar y wefan hon. Bydd y broses hon yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r hyn a olygir gan les. Bydd hefyd yn rhoi syniadau i ni a ffyrdd i wella lles yng Nghymru.